Cystadleuaeth Cantorion Cymreig 2024 – Penblwydd yn 60 oed
Cystadleuaeth i gantorion Cymreig ar ddechrau gyrfa proffesiynol.
Bydd yr enillydd yn cynrychioli Cymru yn
BBC Canwr y Byd Caerdydd 2025
ac yn dderbyn gwobr o £5,000 a thlws y gystadleuaeth.
Bydd y cantorion eraill yn y rownd derfynol yn derbyn gwobr o £1,000 yr un.
Mae gwobr cynulleidfa o £300
Cyngerdd Dathlu 60 Mlynedd
Neuadd Dora Stoutzker, Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, Caerdydd
Dydd Sul 20 Hydref 2024 am 3 o’r gloch y prynhawn
Rownd Derfynol
Eiry Price – Soprano
Ryan Vaughan Davies – Tenor
Eleri Gwilym – Soprano
Emyr Lloyd Jones – Tenor
Erin Gwyn Rossington – Soprano
Manylion Archebu
Bydd pump o gantorion ifanc mwyaf talentog Cymru yn cystadlu am y cyfle i gynrychioli eu gwlad yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Gyda’r pianyddion David Doidge a Nicola Rose, yn cyfeilio iddynt, cewch fwynhau prynhawn o gerddoriaeth o safon penigamp gan sêr opera Cymraeg y dyfodol. Bydd panel o feirniaid nodedig dan gadeiryddiaeth y soprano Rebecca Evans CBE yn dewis y buddugol ac yn cyhoeddi eu penderfyniad ar ddiwedd y cyngerdd.
Tocynnau £16 – £22
Swyddfa Docynnau – 029 2039 1391 / www.rwcmd.ac.uk