Un arall o weithgareddau’r Llwyfan Cantorion Cymreig yw gwireddu’r cynllun i greu cronfa-ddata o gantorion Cymreig sydd yn ymwneud â cherddoriaeth glasurol.
Credwn y medrwn gynorthwyo gyda datblygu a rhoi cyhoeddusrwydd i yrfaoedd cantorion ifanc a darparu gwybodaeth gynhwysfawr ar gyfer cyflogwyr posib, megis cwmnïau opera, trefnwyr cyngherddau a datganiadau a rheolwyr gwyliau.
Bydd bod yn rhan o’r gronfa-ddata hon yn ddewisol wrth gwrs, a bydd angen i’r cantorion a fydd yn dymuno ymuno â’r gronfa-ddata arwyddo dogfen yn cytuno y byddant yn glynu at yr amodau a’r telerau. Glynir yn ddiwyro at y ddeddfwriaeth ynglŷn â chasglu a storio gwybodaeth.
Bydd mynediad i’r gronfa wybodaeth ar gael yn rhwydd i bawb, o lynu at y telerau a’r amodau.
Ein gobaith yw y bydd hwn yn dod yn offeryn buddiol a defnyddiol i’r diwydiant cerddoriaeth glasurol yng Nghymru a thu hwnt.
Bydd gwybodaeth bellach am y prosiect cyffrous hwn yn cael ei roi yma yn ystod yr wythnosau i ddod.